top of page
shape_04_cmyk.png
shape_04_cmyk.png
Mewn_Cymeriad_bilingual_white-01.png
shape_05_cmyk.png
Kate
Drama un person am Kate Roberts - gwerinwraig genedlaetholgar a roddodd lais i’r bobl gyffredin trwy ei gwaith. Er fod Cymru wedi mynnu rhoi statws barchus iddi, rebel styfnig oedd Kate yn y bôn - dynes o flaen ei hamser yn byw a gweithio mewn byd o ddynion. 
KATE SQUARE.jpg
social_media2_edited.jpg

SIOEAU CYMUNEDOL

9Z5A4180-683x1024.jpg

SIOEAU CYNRADD

9Z5A4351-Edit-776x1024.jpg

SIOEAU UWCHRADD

Amdanom ni

Mae Mewn Cymeriad yn gwmni theatr sy’n llwyfannu sioeau am gymeriadau a straeon o hanes Cymru

Pan gychwynnodd y cwmni nôl yn 2014, y bwriad oedd darparu sioeau rhyngweithiol, un dyn/un ferch, i ysgolion cynradd trwy Gymru gyfan, gan gynnig awr addysgiadol ac adloniadol i blant. Erbyn hyn, mae gan y cwmni ystod eang o gyflwyniadau dramatig ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol, yn blant ac oedolion, oll yn canolbwyntio ar gymeriad neu stori o hanes Cymru – o gyfnod y Celtiaid i gofnodi 20 mlynedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Man cychwyn yw’r sioeau ar gyfer astudiaeth bellach, ac i gydfynd â phob cymeriad mae pecyn addysgol/gweithgareddau wedi’i baratoi yn ofalus fel ei fod yn berthnasol i ofynion llythrennedd a rhifedd y cwricwlwm Cymreig, gan ddarparu adnoddau newydd i athrawon i addysgu ac i ysbrydoli plant i ddysgu mwy am hanes Cymru.

Cysylltwch

Diolch am gysylltu!

Gair o’r ysgolion...

Harri Tudur

Cyflwyniad rhyngweithiol a diddorol sydd yn gwneud hanes yn rhywbeth byw. Diolch!

Ysgol Melin Gruffydd, Caerdydd

bottom of page