Waldo
Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn mynd i fro’r Garreg Las yn 2026, mae’n addas talu teyrnged i waith a bywyd un o blant amlycaf yr ardal honno, sef y bardd a’r ymgyrchydd heddwch Waldo Williams. Yn y cyflwyniad hwn, cawn gip ar y cwlwm tynn rhwng profiadau ei fywyd, delfrydau ei athroniaeth a’i gerddi ac ystyried mor berthnasol yw ei eiriau ein dyddiau ni.

Amdanom ni
Mae Mewn Cymeriad yn gwmni theatr sy’n llwyfannu sioeau am gymeriadau a straeon o hanes Cymru
Pan gychwynnodd y cwmni nôl yn 2014, y bwriad oedd darparu sioeau rhyngweithiol, un dyn/un ferch, i ysgolion cynradd trwy Gymru gyfan, gan gynnig awr addysgiadol ac adloniadol i blant. Erbyn hyn, mae gan y cwmni ystod eang o gyflwyniadau dramatig ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol, yn blant ac oedolion, oll yn canolbwyntio ar gymeriad neu stori o hanes Cymru – o gyfnod y Celtiaid i gofnodi 20 mlynedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Man cychwyn yw’r sioeau ar gyfer astudiaeth bellach, ac i gydfynd â phob cymeriad mae pecyn addysgol/gweithgareddau wedi’i baratoi yn ofalus fel ei fod yn berthnasol i ofynion llythrennedd a rhifedd y cwricwlwm Cymreig, gan ddarparu adnoddau newydd i athrawon i addysgu ac i ysbrydoli plant i ddysgu mwy am hanes Cymru.






