Yr Esgob William Morgan
Roedd Yr Esgob William Morgan, pan fu farw yn 1604, yn ddyn tlawd gan adael yn ei ewyllys ychydig o lestri piwter, pum pot blodyn, dau baun a dau alarch. Er hyn, yn ystod ei oes, creodd un o drysorau mwya’ gwerthfawr y genedl - Y Beibl Cymraeg.
Yn ystod awr hwyliog, caiff y plant eu cludo i galedwch Oes y Tuduriaid a’u cyflwyno i stori rhyfeddol William Morgan - o’i fagwraeth yn Wybrnant i’w ddyrchafiad yn Esgob Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Daw’r plant i ddeall pam fod y Beibl wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg; sut aethpwyd ati i gwblhau’r gwaith; pa effaith a gafodd ar Gymry cyffredin yr oes, a’r waddol anhygoel - goroesiad yr iaith Gymraeg.
​
Mae pecyn o adnoddau dysgu, sydd yn llawn syniadau am weithgarwch pellach i gyd fynd â’r perfformiad ar gael - ymwelwch â'n siop i ddarganfod mwy.
​
Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.
Tîm Creadigol
Actor
Llion Williams
Cyfarwyddwr
Janet Aethwy
Awdur
Danny Grehan
Archebwch Yr Esgob William Morgan
Pris
Un sesiwn - £195 + TAW
Dau sesiwn - £320 + TAW
Tair sesiwn - £375 + TAW
Mae pob sesiwn yn para oddeutu awr o hyd.
Hyd at 60 disgybl ym mhob sesiwn.