Trysorau T. Llew
Dewch i ddathlu bywyd a gwaith brenin straeon Cymraeg i blant, T. Llew Jones.
Dyma hoff awdur Cati Wyllt, ac mae hi wrth ei bodd yn rhannu tameidiau o rai o'r 35 llyfr ysgrifenodd T. Llew i blant yn ystod ei yrfa.
Felly, os oes yna fôr-ladron bach ac arwyr dewr yn eich hysgol chi, gadewch i Cati ddod o hyd iddyn nhw wrth gyflwyno sioe fywiog sy'n dod a holl antur a chyffro geiriau T. Llew yn fyw.
Datblygwyd y sioe gan Mewn Cymeriad, mewn cydweithdrediad â Cyngor Ceredigion a Cyngor Llyfrau Llyfrau Cymru
Mae'r sioe yma ond ar gael yn y Gymraeg.
Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.


Tîm Creadigol
Actor
Nia James
Cyfarwyddwr
Anwen Carlisle
Awdur
Anni Llŷn
Archebwch Trysorau T. Llew
Pris
Un sesiwn - £195 + TAW
Dau sesiwn - £320 + TAW
Tair sesiwn - £375 + TAW
Mae pob sesiwn yn para oddeutu awr o hyd.
Hyd at 60 disgybl ym mhob sesiwn.