top of page

Taith yr Iaith

Darganfyddwch hanes yr iaith Gymraeg yng nghwmni M R. Ben Igwr.

Mae e'n Swyddog Ystadegau i Lywodraeth Cymru, ac yn dipyn o 'genius'! Mae ei Bennaeth yn y Llywodraeth yn gosod tasg iddo - sicrhau y bydd miliwn o bobl yn siarad Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Wrth iddo ddechrau cyfri'r gynulleidfa, mae'n sylweddoli y bydd hon yn dasg anodd dros ben, ac mae'n penderfynu chwilio am ysbrydoliaeth trwy ymchwilio i hanes yr iaith Gymraeg.

 

Mae'n cyflwyno 10 cam pwysig yn hanes yr iaith - o'r Ddeddf Uno, i gyfieithu'r Beibl, Brad y Llyfrau Gleision i'r Welsh Not. Wrth i'r sioe fynd yn ei blaen, mae Mr Igwr yn codi'i galon wrth gyflwyno hanes sefydlu'r Urdd ac ysgolion Cymraeg. Ar ddiwedd y sioe, yn llawn gobaith, mae'n annog y gynulleidfa i siarad Cymraeg, gan taw NHW fydd yn cyfri yn 2050.

 

Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.

Tîm Creadigol

Actor

Llion Williams

Cyfarwyddwr

Janet Aethwy

Awdur

Anni LlÅ·n

Archebwch Taith yr Iaith

 

Pris

 

Un sesiwn - £195 + TAW

Dau sesiwn - £320 + TAW

​

Mae pob sesiwn yn para oddeutu awr o hyd. 
Hyd at 60 disgybl ym mhob sesiwn.

bottom of page