top of page

Llythyr i Syr Ifan ab Owen Edwards

Ymunwch â Syr Ifan ab Owen Edwards, y dyn tu ôl i Urdd Gobaith Cymru, wrth i ni ddathlu canmlwyddiant yr Urdd!

Beth fyddai Syr Ifan yn feddwl o'r Urdd heddiw? Ganrif ers iddo fo a’i wraig, Eirys, sefydlu’r mudiad cwbl arbennig yma mae llawer wedi newid. Dyma sioe sy’n dychmygu ymateb Syr Ifan ac yn rhoi cyfle i ni ailfyw a bod yn rhan o’r dyddiau cynnar. Dewch i ddathlu pen blwydd yr Urdd yng nghwmni’r dyn ei hun, Syr Ifan ab Owen Edwards.

 

Mae'r sioe yma yn addas ar gyfer disgyblion Cam Cynnydd 3.

 

Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.

Tîm Creadigol

Actor

Osian Llewelyn Edwards

Cyfarwyddwr

Janet Aethwy

Awdur

Anni Llŷn

Archebwch Llythyr i Syr Ifan ab Owen Edwards

 

Pris

 

Un sesiwn - £195 + TAW

Dau sesiwn - £320 + TAW

Tair sesiwn - £375 + TAW

 

Mae pob sesiwn yn para oddeutu awr o hyd. 
Hyd at 60 disgybl ym mhob sesiwn.

bottom of page