Mae Alf yn gymeriad lliwgar, diddorol, sy'n CARU darllen. Yn ei got amryliw, sy'n llond pocedi ar gyfer ei lyfrau, bydd Alf yn rhannu gyda'r plant ei gariad tuag at ddarllen, ac yn datgelu'r anturiaethau sy'n digwydd iddo pan mae'n dechrau darllen. Ei hoff awdur yn y byd yw Roald Dahl. Un llyfr ar y tro, bydd Alf yn cyflwyno rhai o straeon yr awdur ac yn darllen ei hoff ddarnau. Yna, bydd ei ddychymyg yn dechrau crwydro, a bydd yn dangos i'r plant sut mae darllen straeon fel hyn yn gwneud iddo neud pethau dwl eraill - a dyna gychwyn ar yr hwyl!
Addas i 5+

Taith Pasg Roald Dahl Dychmygwch!
Riverfront, Casnewydd
12/4/25
Sioe iaith Gymraeg am 11am
Sioe iaith Saesneg am 2.30pm
Neuadd Llanover
14/04/25
Sioe Gymraeg am 11am
Sioe iaith Saesneg am 2.30pm
Theatr Yr Olwg, Gartholwg
15/03/25
Sioe Gymraeg am 10.30am
Sioe iaith Saesneg am 1pm
Castell Aberteifi
16/4/2025
Sioe iaith Gymraeg 11.30am
Sioe iaith Saesneg am 1.30pm