top of page
9Z5A4686-scaled.jpg

Rhowch Gynnig Arni

Ydach chi'n ysgol neu'n sefydliad addysgiadol? Pam ddim ymgeisio am grant Rhowch Gynnig Arni – Cyfle cyffrous i gydweithio â Mewn Cymeriad, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Beth yw Rhowch Gynnig Arni?

Dyma gronfa newydd gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddysgwyr 3-16 oed roi cynnig ar weithgaredd neu weithdy ymarferol sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau mynegiannol yn yr ysgol a’r tu allan.

 

Sut all Mewn Cymeriad helpu fy ysgol i Rhoi Cynnig Arni?

Mae Mewn Cymeriad yn awyddus i gyd-ddatblygu rhaglen o weithgareddau gyda’ch ysgol sydd yn rhoi cyfle i’ch disgyblion archwilio stori o hanes Cymru cyn datblygu eu sgiliau drama i ddweud rhagor o’r stori eu hunain.

 

Beth yn union yw’ch cynllun?

Mae popeth yn hyblyg, ond dyma engrhaifft o weithgaredd posib (yn hannu o gynllun Rhowch Gynnig Arni a ddatblygwyd ar y cyd gyda Ysgol Coed y Gof, Caerdydd)

 

Bydd y cynllun yn cael ei gynnal dros 4 diwrnod o fewn yr un wythnos, ac yn cynnwys tair prif elfen:

  1. Perfformiad o sioe rhyngweithiol gan Mewn Cymeriad, sydd yn rhannu stori hanesyddol gyda hyd at 60 o ddisgyblion.

  2. Cydweithio â ymarferydd theatr i greu tair golygfa o’r stori neu thema rydych yn ei astudio (bydd ein ymarferydd yn gweithio gyda tri grŵp, gyda hyd at 20 plentyn ym mhob grŵp). Bydd y golygfeydd yn cael eu sgriptio o flaen llaw ar gyfer anghenion y dosbarth a niferoedd pob grŵp.

  3. Perfformiad o’r dair olygfa – unai i weddill yr ysgol, neu i aelodau o’r gymuned/teulu ar ddiwedd y cynllun.

 

Byddem yn annog athrawon i gefnogi’r weithgaredd drwy helpu disgyblion i baratoi ar gyfer y perfformiad pan nad ydynt yn gweithio gyda’r ymarferydd. Mae hefyd yn gyfle gwych i greu gwaith celf i gyd-fynd a’r perfformiad (unrhyw brops neu set). A beth am gynnwys elfen fathemateg drwy greu cyllideb ar gyfer y perfformiad, neu farchnata’r perfformiad i gynulleidfa drwy ddefnyddio sgiliau digidol?

 

Byddwn ni yn Mewn Cymeriad yn cyd-weithio gyda’ch ysgol i sicrhau bod eich anghenion penodol yn cael sylw, tra’n cyflwyno cyfle gwych i’r plant (a’r athrawon!) rhoi cynnig ar fod yn ymarferwyr theatr proffesiynol.

 

Faint mae hwn yn ei gostio?

Gall y gweithgarwch fod yn un sesiwn neu gael ei gynnal ar draws sawl diwrnod.

Mae’r gronfa’n cynnig grantiau o hyd at £1,500 a gall ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth, unedau cyfeirio disgyblion a/neu sefydliadau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru wneud ceisiadau.

​

Ble caf i ragor o wybodaeth am Rhowch Gynnig Arni?

Mae canllawiau cyflawn, yn ogystal a gwybodaeth am pwy all wneud cais i’r gronfa ar gael ar wefan Dysgu Creadigol, Cyngor Celfyddydau Cymru

​

Gwych! Be dwi angen ei wneud nesaf?

Cysylltwch gyda ni i drefnu sgwrs a thrafod sut gallwn ni gyd-greu profiad hwyliog a fydd yn eich cefnogi i gyflwyno Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol.​​​​​

​

‘O ran ni fel ysgol, nath yr holl beth weithio yn arbennig.

Roedd y sesiwn cyntaf  wedi ysbrydoli’r plant ac wedi sicrhau bod diddordeb gyda'r plant. Wedyn, llwyddo i greu cyfanwaith gyda Anwen. Buodd y rhieni mewn hefyd, a fe wnaethon nhw fwynhau gymaint. Roedd yr holl beth yn ffordd hyfryd i orffen y thema.’

                                                          Sera Edwards, Ysgol Coed y Gof, Caerdydd

​​

bottom of page