Mari Jones – Yn ôl fy Nhroed
Pam fydde unrhyw un am gerdded 26 milltir heb esgidiau?
Dyma gyfle i gwrdd â merch 16 oed, dewr a phenderfynol - Mari Jones. Merch ysgol, tlawd, oedd hi, â’i bryd ar rywbeth pwysig – un o’r llyfrau cyntaf oedd ar gael i bobl fel chi a fi yn y Gymraeg – Y Beibl. Weithiau mae merch fach yn medru gwneud pethau mawr.
​
Cewch ddysgu mwy am y Gymraes o droed Cader Idris, sydd wedi gadael ôl ei throed ledled y byd drwy gerdded o Lanfihangel-y-Pennant i’r Bala.
​
Mae'r sioe yma yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Sylfaen yn ogystal â Cyfnod Allweddol 2.
Mae pecyn o adnoddau dysgu, sydd yn llawn syniadau am weithgarwch pellach i gyd fynd â’r perfformiad ar gael - ymwelwch â'n siop i ddarganfod mwy.
​
Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.
Tîm Creadigol
Actor
Ffion Glyn
Cyfarwyddwr
Janet Aethwy
Awdur
Sian Melangell Dafydd
Archebwch Mari Jones – Yn ôl fy Nhroed
Pris
Un sesiwn - £195 + TAW
Dau sesiwn - £320 + TAW
Tair sesiwn - £375 + TAW
Mae pob sesiwn yn para oddeutu awr o hyd.
Hyd at 60 disgybl ym mhob sesiwn.