Iolo Goch -
O Gogoniant!
Be ’di be efo’r beirdd o’r oes o’r blaen?!
Dewch i ddarganfod be ’di be drwy lygaid y bardd canol oesol Iolo Goch a fu’n canu clodydd i Owain Glyndŵr ei hun
​​ Bydd cyfle i brofi barddoni boncyrs, blasu bywyd bywiog bardd y cyfnod, a dod i wybod be’n union yw cyflythrennu a ‘clera’. Y bardd oedd cyfryngau cymdeithasol yr oesoedd canol ac felly tybed a wnaeth Iolo Goch wahaniaeth wrth rannu statws Owain Glyndŵr yn y blynyddoedd cyn y gwrthryfel?​
​
Dewch i ddysgu be’n union oedd gogoniant Iolo Goch a chlywed y dyn ei hun yn datgan “o gogoniant” pan fydd yr awen yn taro!
Mae'r sioe yma yn addas ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 - 6.
​
Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.
Dyfeisiwyd gan
Tîm Creadigol
Actor
Sion Emyr
Cyfarwyddwr
Iwan Charles
Awdur
Anni LlÅ·n
Archebwch Iolo Goch - O Gogoniant!
Pris
Un sesiwn - £195 + TAW
Dau sesiwn - £320 + TAW
Tair sesiwn - £375 + TAW
Mae pob sesiwn yn para oddeutu awr o hyd.
Hyd at 60 disgybl ym mhob sesiwn.