Gwlân Gwlân, Pleidiol wyf i'm Gwlân
Fyddwch chi'n gwisgo gwisg Gymreig ar ddydd Gŵyl Dewi? Darganfyddwch sut cychwynodd y traddodiad yma!
Yn y sioe, cawn gyfarfod Arglwyddes Llanofer - menyw gyfoethog o Abergafeni, oedd am weld merched Cymru yn gwisgo dillad o wlân Cymreig ...bob dydd!
Yng nghwmni'r Arglwyddes, bydd y plant yn dysgu am hanes y wisg, ynghŷd â thwf y diwydiant gwlân yng Nghymru yn ystod cyfnod y chwyldro diwydiannol.
Mae'r sioe yma yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Sylfaen yn ogystal â Cyfnod Allweddol 2.
Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.


Tîm Creadigol
Actor
Catrin Morgan
Cyfarwyddwr
Sarah Bickerton
Awdur
Mared Roberts
Archebwch Gwlân Gwlân, Pleidiol wyf i'm Gwlân
Pris
Un sesiwn - £195 + TAW
Dau sesiwn - £320 + TAW
Tair sesiwn - £375 + TAW
Mae pob sesiwn yn para oddeutu awr o hyd.
Hyd at 60 disgybl ym mhob sesiwn.